Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl i gorff babi gael ei ddarganfod mewn ffos.

Roedd archwiliad  post mortem ddoe wedi methu â darganfod sut y bu farw’r babi, yn ôl heddlu Swydd Gaerhirfryn.

Mae’n debyg mai merch ydy’r babi a’i bod hyd at fis oed.

Cafodd ei chorff ei ddarganfod ar ôl 2pm ddydd Sadwrn mewn ffos ger Carr Lane, yn Kirkham gan rywun yn cerdded gyda’u ci.

Mae’r heddlu’n ceisio darganfod pwy ydy’r babi a’r amgylchiadau ymwneud â’i farwolaeth.

Mae’r heddlu’n credu mai mam ifanc sydd wedi gadael ei babi yno, ac mae nhw’n apelio am wybodaeth.