Mae ymgyrch ar y gweill i annog cwmnïau’r ddinas i dalu ‘Cyflog Byw Llundain’ i’w gweithwyr – a hynny heb gael eu gorfodi i wneud hynny.

Maen nhw’n ceisio annog cwmnïau yn y byd arian, yn benodol, i dalu £10.55 yr awr i oedolion, sydd gryn dipyn yn uwch na’r £7.83 sy’n gyfreithiol.

Mae negeseuon wedi’u plastro ar hyd trenau a gorsafoedd yr Underground.

Mae’r ymgyrch yn cael ei chynnal gan y City of London Corporation, ac wedi derbyn cefnogaeth y Living Wage Foundation.