Mae Derek Hatton, y cynghorydd asgell-chwith dadleuol a oedd yn ddirprwy arweinydd Cyngor Dinas Lerpwl yn ystod yr 1980au, yn dychwelyd i’r Blaid Lafur.

Yn ôl adroddiadau yn The Daily Mirror, fe gymeradwyodd un o bwyllgorau’r Blaid Lafur gais i’w aildderbyn, a hynny 34 o flynyddoedd ers ei wahardd.

Dywedodd Derek Hatton, 71, wrth y papur fod y “prosesau wedi digwydd”, gan ychwanegu ei fod bellach yn aelod o’r Blaid Lafur.

Daw’r cam ar ôl i saith Aelod Seneddol ymddiswyddo o’r blaid mewn protest tros safbwynt yr arweinyddiaeth ar wrth-semitiaeth a Brexit.

Derek Hatton?

Cafodd y cynghorydd ei wahardd o’r Blaid Lafur yn 1985 gan yr arweinydd ar y pryd, Neil Kinnock, oherwydd ei aelodaeth o’r grŵp asgell-chwith, Militant Tendency.

Daeth y cam ar ôl i Gyngor Dinas Lerpwl weithredu cyllid anghyfreithlon ac anfon hysbysiadau dileu swydd i filoedd gan ddefnyddio tacsis.

Esgorodd hyn ar araith enwog gan Neil Kinnock yng nghynhadledd ei blaid yn yr un flwyddyn, gyda sawl ffigwr asgell-chwith yn ymateb trwy gerdded allan.