Mae’r awdurdodau yn Awstralia yn chwilio am lanc 20 oed a’i gyfaill o Ffrainc wedi i’r ddau ddiflannu oddi ar draeth poblogaidd yn y wlad.

Yn ôl yr heddlu, maen nhw wedi cychwyn chwilio am Hugo Palmer o Sussex ac Erwan Ferrieux ar ôl i eiddo’r ddau gael ei ganfod ar Shelly Beach yn New South Wales.

Daeth cerddwyr o hyd i’r eiddo am tua 6.30yb ddydd Llun (Chwefror 19), gyda’r heddlu yn ddiweddarach yn dod o hyd i gar a gafodd ei rentu gan y ddau.

Mae ymdrechion i chwilio’r ardal gyfagos, gan gynnwys y môr, bellach wedi cychwyn.

Dywed llefarydd ar Heddlu New South Wales fod y ddau gyfaill wedi cyrraedd yr ardal fore dydd Sul.

Awgryma ei bod hi’n bosib bod y ddau wedi mynd i syrffïo yn y môr, wrth iddo ddweud bod amodau ar gyfer gweithgarwch o’r fath wedi bod yn “ddychrynllyd” yn ystod y dyddiau diwethaf.