Mae’r saith Aelod Seneddol sydd wedi gadael y Blaid Lafur er mwyn ffurfio grŵp annibynnol newydd wedi cael eu herio i frwydro am eu seddi.

Daw’r her gan un o brif gefnogwyr Jeremy Corbyn yng nghabinet yr wrthblaid, John McDonnell, sy’n dweud y dylai aelodau’r grŵp wneud y “peth anrhydeddus” ac ymddiswyddo fel Aelodau Seneddol er mwyn cynnal is-etholiadau.

“Fe wnaeth pob un o’r Aelodau Seneddol hyn sefyll ar ein maniffesto yn 2017, pan wnaethon nhw gynyddu eu mwyafrifoedd,” meddai John McDonnell wrth y BBC.

“Maen nhw bellach ar lwyfan wahanol, felly’r peth anrhydeddus a’r peth arferol iddyn nhw eu gwneud yn awr yw ymddiswyddo ac ymladd is-etholiadau yn eu hetholaethau.”

“Dewis amgen”

Mae’r her wedi cael ei gwrthod gan aelodau’r Grŵp Annibynnol, sy’n cynnwys Chuka Umunna, Luciana Berger, Chris Leslie, Angela Smith, Gavin Shuker, Mike Gapes ac Ann Coffey.

Maen nhw’n dweud nad oes angen etholiadau adeg “argyfwng” Brexit.

Mae’n debyg eu bod nhw wedi ymddiswyddo oherwydd y modd mae’r Blaid Lafur wedi ymateb i Brexit a honiadau o wrth-Semitiaeth.

Mewn digwyddiad i’r wasg yn Neuadd Sirol Llundain fore heddiw (dydd Llun, Chwefror 18), fe apeliodd Chuka Umunna ar bleidleiswyr i gefnogi’r grŵp.

“Ers yn rhy hir, mae’r pleidiau gwleidyddol yn San Steffan – pleidiau yr ydym ni wedi bod yn rhan ohonyn nhw – wedi eich methu,” meddai.

“Os ydych chi wedi cael llond bol o’r wleidyddiaeth arferol, wel wyddoch chi beth? Rydyn ni wedi diflasu hefyd…

“Rydyn ni’n eich gwahodd chi i adael eich pleidiau ac i’n helpu ni i ffurfio consensws newydd ar gyfer y ffordd orau ymlaen i wledydd Prydain.”

Yr arweinyddiaeth – “siomedig”

Mewn ymateb, dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, ei fod yn “siomedig nad oedd yr Aelodau Seneddol yma yn teimlo eu bod yn gallu parhau i gydweithio ar bolisïau Llafur a oedd wedi ysbrydoli miliynau yn yr etholiad diwethaf.”

“Mae’r Llywodraeth Geidwadol yn gwneud llanast â Brexit, tra bo Llafur wedi gosod cynllun amgen credadwy sydd am uno pobol.

“Tra bo miliynau yn wynebu diflastod y Credyd Cynhwysol, cynnydd mewn troseddau, digartrefedd a thlodi, mae angen dod â phobol ynghyd er mwyn adeiladu dyfodol gwell ar gyfer pawb.”

Mae cyn-arweinydd y Blaid Lafur, Ed Milliband, hefyd wedi mynegi ei siom ynghylch ymadawiad y saith Aelod Seneddol.

“Dw i’n dal i gredu yn egwyddorion y Blaid Lafur ac yn credu mai llywodraeth Lafur yw’r gobaith gorau sydd ei angen ar y wlad,” meddai.

“Mae’n rhaid, ac fe fydd y Blaid Lafur yn parhau’n blaid sy’n eang ei safbwyntiau – fel y mae wastad wedi bod.”