Mae cwmni ceir Honda yn bwriadu cau ei ffatri yn Swindon ymhen tair blynedd, yn ôl adroddiadau.
Mae’r cwmni o Siapan wedi gwrthod gwneud sylw am yr adroddiadau a hynny chwe mis ar ôl i benaethiaid Honda gyhoeddi eu hymrwymiad i wledydd Prydain.
Ond mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol lleol Justin Tomlinson wedi cadarnhau’r newyddion heddiw (dydd Llun, 18 Chwefror) gan ddweud bod y penderfyniad yn “seiliedig ar arferion rhyngwladol ac nid Brexit.”
Mae Honda yn cyflogi tua 3,500 o bobl yn ei ffatri yn Wiltshire gan adeiladu tua 160,000 o geir Honda Civic bob blwyddyn.
Fis diwethaf fe gyhoeddodd Honda gynlluniau i gau’r ffatri am chwe diwrnod ym mis Ebrill er mwyn paratoi ar gyfer unrhyw broblemau yn sgil Brexit.
Mae disgwyl cyhoeddiad gan Honda yfory (dydd Mawrth, 19 Chwefror).