Mae pwyllgor o Aelodau Seneddol wedi mynnu bod yn rhaid i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol gydymffurfio a chod moeseg er mwyn mynd i’r afael a chynnwys anghyfreithlon ar eu safleoedd.

Mewn adroddiad cynhwysfawr, mae’r ASau hefyd yn rhybuddio bod democratiaeth mewn perygl oherwydd bod pobl yn cael eu targedu gyda newyddion ffug a hysbysebion o ffynonellau na ellir eu hadnabod.

Roedd y Pwyllgor Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn feirniadol iawn o Facebook gan ei gyhuddo o fod yn “anfodlon bod yn atebol i reoleiddwyr”. Cafodd pennaeth Facebook, Mark Zuckerberg, hefyd ei feirniadu am ddangos “dirmyg” drwy wrthod mynd gerbron y pwyllgor y llynedd.

Yn yr adroddiad maen nhw’n dweud na ddylai cwmnïau fel Facebook gael eu caniatáu i “ystyried eu hunain uwchlaw’r gyfraith” gan ychwanegu bod angen canllawiau moeseg i ddatgan beth sydd, a beth sydd ddim, yn dderbyniol ar gyfryngau cymdeithasol.

Os nad yw’r cwmnïau technegol yn cwrdd â gofynion y cod moeseg, yna fe ddylai rheoleiddiwr annibynnol fod a’r gallu i ddechrau camau cyfreithiol yn eu herbyn a’r gallu i roi dirwyon sylweddol, meddai’r ASau.

Mae Facebook wedi dod o dan y lach dros y flwyddyn ddiwethaf yn dilyn y sgandal Cambridge Analytica, a phryderon am newyddion ffug a chynnwys ar y safle.