Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o drywanu tri dyn arall mewn digwyddiad yn Llundain.

Cafodd tri dyn 24 anafiadau yn oriau man fore heddiw (dydd Sul, Chwefror 17), ond dydy eu bywydau ddim mewn perygl.

Cafodd yr heddlu eu galw am oddeutu 3.40yb.

Mae dau ddyn, 23 a 24 oed, yn cael eu holi ar amheuaeth o geisio llofruddio ac o fod ag arf yn eu meddiant.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.