Mae Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn galw ar Brydain a gwledydd eraill yn Ewrop i groesawu 800 o filwyr Islamaidd o Syria, a dwyn achos yn eu herbyn.

Mae’n rhybuddio y gallai’r milwyr “dreiddio drwy Ewrop”.

“Dydy’r Unol Daleithiau ddim am wylio wrth i’r milwyr ISIS hyn dreiddio drwy Ewrop, sef lle mae disgwyl iddyn nhw fynd,” meddai.

“Rydym yn gwneud cymaint ac yn gwario cymaint – mae’n bryd i eraill gamu i fyny a gwneud y gwaith maen nhw’n ddigon galluog i’w wneud.”

Y sefyllfa bresennol

Mae Lluoedd Democrataidd Syria yn dweud y bydd ganddyn nhw “newyddion da” yn fuan.

Byddai cipio’r milwyr olaf yn Baghouz yn dod â phedair blynedd anodd o ymgyrchu i ben yn Syria ac Irac, lle’r oedden nhw’n rheoli traean o diroedd yn 2014.

Daw sylwadau Donald Trump wrth i Lywodraeth Prydain ystyried a fyddan nhw’n rhoi croeso i Shamima Begum, dynes 19 oed o Lundain oedd wedi ffoi i Syria yn 15 oed, ond sydd bellach am ddod adref gan ei bod hi’n feichiog.