Mae Downing Street wedi mynnu y bydd Theresa May yn parhau gyda’i strategaeth Brexit er gwaetha ergyd arall yn Nhŷ’r Cyffredin neithiwr (nos Iau, 14 Chwefror).

Roedd 303 wedi pleidleisio yn erbyn rhoi cefnogaeth i’w chynllun a 258 o blaid. Tra bod gweinidogion yn mynnu bod y canlyniad yn “symbolaidd” mae’n adlewyrchu’r rhwygiadau o fewn y blaid.

Yn y cyfamser mae’r cyn-dwrne cyffredinol Dominic Grieve wedi honni bod dwsin a mwy o weinidogion y Llywodraeth – gan gynnwys chwech yn y Cabinet – yn barod i ymddiswyddo os nad ydy Theresa May yn ymestyn trafodaethau Brexit y tu hwnt i 29 Mawrth.

ERG

Roedd rhai Aelodau Seneddol Ceidwadol wedi ymateb yn chwyrn i gyhoeddiad munud-olaf y Grŵp Ymchwil Ewropeaidd (ERG), sydd o blaid Brexit, eu bod wedi gwneud “penderfyniad ar y cyd” i atal eu pleidlais.

Dywedodd y gweinidog amddiffyn Tobias Ellwood bod cyhoeddiad yr ERG yn “bryfoclyd” gan eu cyhuddo o weithredu fel “plaid o fewn plaid.”

Ac mae’r gweinidog busnes Richard Harrington wedi annog yr ERG, sy’n cael ei arwain gan Jacob Rees-Mogg, i ymuno a phlaid newydd cyn-arweinydd Ukip, Nigel Farage gan ei bod yn “adlewyrchu eu daliadau mwy na’r Blaid Geidwadol.”

Roedd canlyniad y bleidlais neithiwr yn annisgwyl gyda’r pwyslais ar y pleidleisiau nesaf sydd i’w cynnal ar 27 Chwefror ac mae disgwyl ymdrech trawsbleidiol bryd hynny i atal Brexit heb gytundeb.

Roedd Downing Street yn feirniadol o Jeremy Corbyn gan gyhuddo’r arweinydd Llafur o roi ei blaid cyn y wlad a pheri risg o Brexit heb gytundeb.

Ond fe ymateb Jeremy Corbyn drwy ddweud ei bod yn bryd i Theresa May dderbyn bod ei strategaeth wedi methu a bod angen cynllun newydd a fyddai’n ennyn cefnogaeth sylweddol ymhlith ASau.