Mae’r nifer o farwolaethau o ganlyniad i yfed a gyrru wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers 2009, yn ôl amcangyfrifon.

Yn 2017, cafodd rhwng 240 a 330 o bobol eu lladd mewn gwrthdrawiadau ar lonydd gwledydd Prydain lle’r oedd o leiaf un gyrrwr wedi yfed gormod, yn ôl yr Adran Drafnidiaeth.

Mae hyn yn cynrychioli tua 16% o holl farwolaethau ffyrdd.

Yr “amcangyfrif canolog” yw ffigwr o 290, a oedd wedi cynyddu o 230 yn ystod y flwyddyn flaenorol, a dyma’r nifer uchaf ers 2009.

Roedd amcangyfrif bod 8,660 o bobol wedi cael eu lladd neu eu hanafu mewn gwrthdrawiadau yfed a gyrru, sydd i lawr 4% o’r flwyddyn gynt.

Yn ôl llefarydd diogelwch ffyrdd y cwmni RAC mae hyn yn “achos difrifol ac mae’n adlewyrchu newid pryderus yn agweddau nifer o yrwyr sy’n barod i beryglu eu bywydau eu hunain a phobol eraill.”

Mi fydd ffigurau terfynol yfed a gyrru 2017 yn cael eu cyhoeddi ym mis Awst.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi gostwng y cyflenwad cyfreithlon o alcohol all yrrwr yfed o 80 miligram (i bob 100 miligram o waed) i 50 miligram.

Er hynny, mae’r lefel yng ngweddill gwledydd Prydain ar 80 miligram yn parhau i fod yr uchaf yn Ewrop.