Mae Canghellor yr Wrthblaid, John McDonnell, wedi cythruddo amryw o’i gyd-wleidyddion wrth ddweud bod Winston Churchill yn “ddihiryn” oherwydd ei driniaeth o lowyr Cymru.

Dywedodd y gwleidydd Llafur hyn wrth gyfeirio at y ffordd y gwnaeth Winston Churchill, fel yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, ymdrin â glowyr Cymru pan oedden nhw ar streic yn 1910.

Anfonodd filwyr i gefnogi’r heddlu yn ystod terfysg Tonypandy – rhywbeth sydd wedi bod yn destun dadleuol yn ein hanes.

Mewn sesiwn cwestiwn ac ateb ar wefan Politico, un o’r cwestiynau oedd: “Winston Churchill, arwr neu ddihiryn?”

Ei ateb oedd, “Tonypanydy – dihiryn.”

Fe ddanfonodd Winston Churchill 200 o swyddogion Heddlu’r Metropolitan i Donypandy, gyda chriw arall o Ffiwsilwyr Sir Gaerhirfryn wedi eu gosod yng Nghaerdydd.

Ar ôl ychydig amser, cafodd y milwyr eu galw i’r pentref yn y Rhondda i ddelio a’r sefyllfa.

Ddegawdau’n ddiweddarach, wedi blynyddoedd yn yr anialwch gwleidyddol, enillodd Winston Churchill glod byd-eang fel y prif weinidog a arweiniodd Brydain i fuddugoliaeth ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Datblygodd yn ffigur eiconig wedi hynny gan gael ei enwi fel y “Prydeiniwr mwyaf” mewn pleidlais gan y BBC yn 2002.

Dywedodd yr AS Ceidwadol Syr Nicholas Soames, ŵyr Winston Churchill, fod sylwadau John McDonnell yn rhai “twp iawn” gan awgrymu mai ceisio cyhoeddusrwydd oedd ei fwriad.

“Dw i’n meddwl y gall enw da fy nhaid wrthsefyll ymosodiad gan ryw Poundland Lenin trydydd gradd,” meddai.