Mae meiri ac arweinwyr dinasoedd ledled gwledydd Prydain yn galw ar y Llywodraeth i roi swm o £1.5 biliwn at dynnu cerbydau sy’n llygru oddi ar y lonydd er mwyn gwella ansawdd yr aer.

Maer Llundain, Sadiq Khan, a UK100 – rhwydwaith o arweinwyr lleol y Llywodraeth, sydd yn gwthio am y newid i gael 100% egni glân erbyn 2050.

Byddai’r gronfa yn mynd at gynllun cenedlaethol dwy flynedd fyddai’n uwchraddio ein cerbydau.

Daw’r galwad ar ôl i’r meiri a’r arweinwyr ymuno yng nghynhadledd Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Michael Gove, a’r Ysgrifennydd Iechyd, Matt Hancock, gafodd ei gynnal yn Llundain i drafod y pryder ynghylch llygredd aer.

Byddai’r gronfa yn gallu talu am £2,000 o gredyd fyddai’n mynd tuag gyfnewid car diesel sydd wedi ei gofrestru cyn 2015 gydag un cerbyd sydd ag allyriadau isel .

Fel arall, byddai’n gwneud cymhellion ar gyfer cludiant cyhoeddus rhatach a chlybiau ceir a beicio i oedolion a theuluoedd gan wneud i bobol anghofio am ddiesel.

Byddai hefyd yn gallu talu £3,500 tuag at gyfnewid faniau a bysus mini masnachol sydd wedi eu cofrestru cyn 2016 am gerbyd sydd ag allyriadau isel gan roi cymorth i ddinasoedd wthio i roi blaenoriaeth i drydan.

Ar ben hyn, dywedodd cefnogwyr y gronfa y dylid ganner y gronfa fynd i ddinasyddion preifat, gyda’r rhai ar incwm isel yn cael eu blaenoriaethu.