Mae’r heddlu yn parhau i gwestiynu dyn o dan amheuaeth o ladd ar ôl i dri phensiynwr gael eu lladd yn eu cartrefi, dim ond milltir i ffwrdd o’i gilydd.

Cafodd cyrff yr efeilliaid Dick a Roger Carter – 84 oed, ac Anthony Payne – 80 oed, eu darganfod mewn llai na 24 awr yn ninas Caerwysg – Exeter – yn Nyfnaint.

Mae cysylltiadau wedi eu creu rhwng y llofruddiaethau oherwydd y “lefel o drais a ddefnyddir” meddai heddlu Dyfnaint a Chernyw.

Mae dyn 27 oed gafodd ei arestio ddoe (dydd Mawrth Chwefror 13) yn y ddalfa yn orsaf heddlu Heavitree yng Ngaerwysg.

Nid yw’r heddlu yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r lladd, ond mae pobol leol yn galw arnynt i wneud yn siŵr bod cymdogion a pherthnasau yn iawn.