Mae’r Llywodraeth yn ystyried cynlluniau i orfodi archwiliadau troseddol mwy trylwyr ar bob gyrrwr tacsi a minicab er mwyn sicrhau gwell diogelwch i deithwyr.

Mae’r Adran Drafnidiaeth yn Llundain wedi lansio ymgynghoriad ar ganllawiau trwyddedu newydd i gynghorau.

Mae’r rhain yn cynnwys argymell bod pob awdurdod lleol yn sicrhau bod gyrwyr yn cael archwiliadau cefndir a gwiriadau cofnod troseddol mwy trylwyr cyn y gallan nhw weithredu.

Meddai’r gweinidog tacsis Nusrat Ghani: “Byddai’r rheolau hyn yn sicrhau bod gyrwyr yn addas i gludo teithwyr, gan cadw pobl yn ddiogel a rhwystro pobl â bwriadau drwg rhag mynd y tu ôl i olwyn tacsi neu minicab.”

Mae’r cynigion yn dilyn pryderon am gam-drin plant ar raddfa fawr gan yrwyr tacsi yn Rotherham yn ne Swydd Efrog ac am y treisiwr John Worboys a oedd yn gyrru tacsi yn Llundain.

Fe fydd yr ymgynghoriad ymlaen tan 22 Ebrill.