Mae’n ymddangos bod Theresa May yn chwarae gyda digio rhai o’i chefnogwyr ei hun er mwyn cael cefnogaeth y Blaid Lafur i fargen Brexit.

Mewn llythyr at yr arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, mae’r Prif Weinidog yn gofyn am drafodaethau pellach, yn enwedig tros y trefniant wrth gefn ar gyfer Iwerddon.

Ac, er nad yw ar hyn o bryd yn derbyn yr alwad Lafur am aros yn yr undeb tollau yn Ewrop, mae’n awgrymu bod ei chynllun hi eisoes yn sicrhau llawer o fanteision hynny.

Digio cefnogwyr

Pe bai hi’n cymryd cam pellach i’r cyfeiriad hwnnw, fe allai ddigio llawer o’i haelodau seneddol ei hun, gan gynnwys sawl gweinidog cabinet.

Mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Liz Truss, eisoes wedi dweud wrth Sky News y byddai hi’n gwrthod undeb tollau yn llwyr ac fe wrthododd wadu y byddai’n ymddiswyddo tros hynny.

Ar yr un pryd, mae Llafur a rhai aelodau mainc gefn Ceidwadol yn ceisio cynyddu’r pwysau i atal y posibilrwydd Frexit heb fargen.

Arwyddion o bryder

Hynny wrth i nifer o adroddiadau ddangos bod ofnau mawr am adael heb gytundeb – mae lefel cynnyrch cwmnïau yn y Deyrnas Unedig yn is nag ers mwy na blwyddyn, mae hyder diwydiant ar ei isa’ ers bron dair blynedd ac mae llai o swyddi yng Ngogledd Iwerddon.