Mae penaethiaid busnes sy’n “ddiofal” ynghylch cynlluniau pensiwn eu gweithwyr yn wynebu hyd at saith mlynedd o garchar, meddai Amber Rudd, Ysgrifennydd Pensiynau San Steffan.

Mae’n rhybuddio y bydd y fath ddiffyg gofal yn dod yn drosedd, ac y gallai hefyd arwain at ddirwy di-ben-draw.

“Rydym yn dod amdanoch chi,” meddai mewn erthygl yn y Sunday Telegraph.

“Er mwyn atal y rhai ffrilans sy’n chwarae gyda’ch arian, rwy’n mynd i wneud ‘ymddygiad bwriadol neu ddiofal’ o ran cynllun pensiwn yn drosedd, gyda chyfnodau o garchar o hyd at saith mlynedd i’r troseddwyr gwaethaf.

“Byddwn hefyd yn rhoi’r grym i’r llysoedd roi dirwyon di-ben-draw – ie, di-ben-draw.”

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn ymgynghoriad y llynedd er mwyn ceisio rhoi mwy o rym i’r rheoleiddiwr pensiynau.

Syr Philip Green

Un o’r achosion amlycaf yw hwnnw’n ymwneud â Syr Philip Green, cyn-bennaeth BHS.

Cafodd y cwnni ei werthu am £1 yn 2015 ond fe aeth y cwmni i ddwylo’r gweinyddwyr flwyddyn yn ddiweddarach, oedd yn golygu bod gwerth £571m o bensiynau wedi cael eu colli.

Talodd Syr Philip Green £363m tuag at y costau.

“Mater o ddweud nad yw’n dderbyniol” yw’r drosedd newydd, meddai Liz Truss, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wrth gefnogi cyhoeddiad Amber Rudd.

Yn y cyfamser, mae rhai yn galw am dynnu teitl ‘Syr’ oddi ar Philip Green, yn dilyn honiadau ei fod e wedi cynnig £1m i ddynes yn gyfnewid am gadw’n dawel am ei ymddygiad rhywiol.

Ac mae honiadau ei fod e wedi sarhau gweithiwr arall yn hiliol.