Mae awdurdodau Bwlgaria yn bwriadu ymchwilio i unigolyn sydd wedi’i amau o fod yn gysylltiedig ag achos o wenwyno yn Salisbury.
Cafodd Sergei Skripal a’i ferch Yulia eu gwenwyno gan ddefnyddio Novichok y llynedd.
Mae’r unigolyn dan sylw wedi’i amau o achos tebyg o wenwyno Emilian Gebrev yn Bwlgaria yn 2015.
Fe oroesodd e’r ymosodiad.
Bydd tystiolaeth yn cael ei rhoi i wrandawiad yn y wlad yn fuan, cyn i bwyllgor diogelwch senedd y wlad gyfarfod.