Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i ddiflaniad y fyfyrwraig 21 oed o Hull, Libby Squire, wedi cael rhagor o amser i holi dyn 24 oed sydd wedi’i amau o’i chipio.

Does neb wedi ei gweld hi ers Ionawr 31, ac mae’r heddlu a’r cyhoedd wedi bod yn chwilio amdani.

Mae lle i gredu iddi fynd i mewn i dacsi ar ddiwedd noson allan yn y ddinas, a chafodd hi ei gweld tua deng munud yn ddiweddarach yn derbyn cymorth gan aelod o’r cyhoedd.

Cafodd dyn ei arestio nos Fercher, hanner milltir o’i chartref.

Mae’r heddlu wedi cael 24 awr ychwanegol i’w holi. Bydd y cyfnod hwnnw’n dod i ben am 9 o’r gloch heno (nos Sul, Chwefror 10).

Mae lluniau wedi dod i’r golwg o gar yn stopio yn yr ardal, a drws y teithiwr yn cael ei agor cyn i rywun fynd i mewn i’r cerbyd, sy’n cael ei weld wedyn yn cael ei yrru i ffwrdd.

Mae tudalen JustGiving wedi cael ei sefydlu, a thros £3,000 wedi cael ei godi fel rhan o’r ymdrechion i ddod o hyd iddi.