Mae Nigel Farage wedi datgan ei gefnogaeth i blaid newydd sydd wedi cael ei sefydlu i hyrwyddo Brexit, gan fynegi diddordeb mewn sefyll drosti.

Mae Plaid Brexit wedi cael ei chofrestru’n swyddogol gyda’r Comisiwn Etholiadol, a fydd yn caniatáu iddi gyflwyno ymgeiswyr mewn etholiadau.

Dywed cyn-arweinydd Ukip y dylai cofrestru Plaid Brexit fod yn rhybudd i unrhyw ASau sy’n cefnogi ymestyn Erthygl 50 a fyddai’n gohirio ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae angen iddyn nhw sylweddoli y gallai fod bygythiad etholiadol difrifol iawn iddyn nhw,” meddai Nigel Farage.

Ychwanegodd y byddai’n sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiadau i senedd Ewrop ym mis Mai os na fydd Prydain wedi gadael erbyn hynny.

Dywedodd y byddai’r blaid yn denu cefnogaeth ar draws y sbectrwm gwleidyddol, gan fod pobl yn uniaethu eu hunain fwyfwy bellach yn ôl eu hagwedd at yr Undeb Ewropeaidd, yn hytrach na theyrngarwch i’r Torïaid neu Lafur.

Roedd wedi gadael Ukip ym mis Rhagfyr gan ddweud ei fod yn teimlo’n anghysurus gyda chyfeiriad ei hen blaid o dan arweiniad Gerard Batten.