Mae Jeremy Corbyn wedi awgrymu y gallai Llafur ddal i gefnogi ail refferendwm ar Brexit os bydd Theresa May yn gwrthod ei gynllun ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd wedi tramgwyddo llawer o’i ASau Llafur gwrth-Brexit wrth gynnig amodau ar gyfer ystyried cefnogi cytundeb ar Brexit mewn llythyr at Theresa May.

Ymysg yr hyn roedd yn galw amdano oedd aros mewn undeb tollau parhaol, cadw cysylltiad agos â’r farchnad sengl a mesurau penodol i ddiogelu hawliau gweithwyr.

Mewn araith yn Coventry heddiw, dywedodd Jeremy Corbyn fod y dewis o bleidlais gyhoeddus yn dal ar y bwrdd, a bod polisi Llafur yn dal yr un fath â’r hyn gafodd ei benderfynu yn y gynhadledd.

“Gallai cynllun Llafur ennill cefnogaeth y Senedd a dod â’r wlad at ei gilydd, ond mae Theresa May wedi dewis llwybr rhaniadau,” meddai.

“Os na all hi fabwysiadu cytundeb synhwyrol er mwyn osgoi hollti’r Torïaid, yna mae’r ateb yn eithaf syml: rhaid cael etholiad cyffredinol.

“Heb etholiad byddwn yn cadw pob dewis ar y bwrdd – fel y cafodd ei gytuno yn ein cynnig yn y gynhadledd – gan gynnwys y dewis o bleidlais gyhoeddus.”

Dywedodd fod yn rhaid i’r Prif Weinidog roi’r gorau i’w “llinellau coch dinistriol”:

“All y wlad ddim cael ei llusgo dros y clogwyn er mwyn undod y blaid Dorïaidd,” meddai.