Mae’r Adran Drafnidiaeth wedi diweddu contract dadleuol gyda chwmni heb longau a oedd wedi eu penodi i helpu mewnforio nwyddau os bydd Brexit di-gytundeb.

Roedd penderfyniad yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Chris Grayling i ddyfarnu contract gwerth £13.8 miliwn i Seaborne Freight wedi cael ei feirniadu’n hallt.

Dywed yr Adran eu bod wedi dod â’r contract i ben ar ôl i’r cwmni o Iwerddon, Arklow Shipping, a oedd wedi cefnogi Seaborne Freight, dynnu’n ôl.

Roedd Seaborne Freight yn un o dri chwmni i dderbyn contractau a oedd yn werth cyfanswm o £108 miliwn ddiwedd mis Rhagfyr i drefnu teithiau ychwanegol i ysgafnhau’r pwysau ar Dover os bydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Wrth ymateb i’r penderfyniad, meddai Andrew Gwynne, Ysgrifennydd Cymunedau’r Wrthblaid:

“Mae’n enghraifft arall o lanast llwyr yn nwylo Chris Grayling, sydd bellach yn sicr o fod yr Ysgrifennydd Gwladol gwaethaf erioed.”