dyddiad Brexit yn prysur nesáu, bydd Theresa May yn teithio i Iwerddon yn ddiweddarach i gyfarfod â’r Taoiseach.
Daw hyn yn dilyn ei hymweliad â Brwsel ddydd Iau (Chwefror 7) lle geisiodd y Prif Weinidog daro bargen tros y ‘backstop’.
Mi fyddai’r ‘stop cefn’ yma yn dod i rym os nad oes cytundeb masnach rhwng yr Undeb Ewropeaidd a gwledydd Prydain mewn da bryd.
A byddai’n rhwystro ffin galed yn Iwerddon – ond hefyd yn gorfodi’r Deyrnas Unedig i gydymffurfio â rheolau Ewropeaidd.
Mae’r mater yn faen tramgwydd yn y trafodaethau rhwng gwledydd Prydain ac Ewrop, ac mi fydd yn siŵr o godi pan fydd Theresa May yn cwrdd â Leo Varadkar.
Terfyn amser
Cyn y cyfarfod mi fydd Twrnai Cyffredinol San Steffan, Geoffrey Cox, yn cynnal trafodaethau â Thwrnai Cyffredinol y Weriniaeth, Seamus Woulfe.
Mae Geoffrey Cox yn frwd o blaid gosod terfyn amser ar y ‘stop cefn’, ond mae Dulyn eisoes wedi gwrthod y syniad.