Mae corff a ganfuwyd mewn llyn gan swyddogion yr heddlu, wedi ei adnabod yn ffurfiol fel un y myfyriwr, Daniel Williams.

Doedd neb wedi gweld y myfyriwr 19 oed ers dydd Iau diwethaf (Ionawr 31), wedi iddo fethu â dychwelyd i’w fflat yn dilyn noson allan ym mar yr undeb, Prifysgol Reading.

Mae Heddlu’r Thames Valley wedi cadarnhau i’r corff gael ei dynnu o’r dŵr fore Mawrth (Chwefror 5) ac iddo gael ei adnabod yn ffurfiol fel un Daniel Willams o Sutton, Llundain.

Fe fu’r heddlu, gwirfoddolwyr, ynghyd â gwasanaeth heddlu’r awyr, yn chwilio am Daniel Williams dros yr wythnos ddiwethaf. Roedd yn fyfyriwr ail flwyddyn yn astudio Cyfrifiadureg.

Mae ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb eglurhad iddi, ond heb fod yn un amheus.