Mae dau ddyn wedi marw yn dilyn damwain ar fynydd yn ucheldir yr Alban.

Bu pryderon ynghylch y dringwyr a aeth i drafferthion ar Ben Hope Sutherland ddydd Mawrth (Chwefror 5), a bu achubwyr yn ceisio dod o hyd iddyn nhw.

Daeth criw hofrennydd gwylwyr y glannau o hyd i’r cyrff ar ochr ogledd-orllewinol y mynydd toc wedi 2yb ddydd Mercher (Chwefror 6).

Mae’r gwaith o gasglu’r cyrff yn parhau.