Mae ymchwilwyr yn dal i geisio symud y corff sydd wedi’i ddarganfod yng ngweddillion yr awyren a oedd yn cludo’r pêl-droediwr Emiliano Sala a’r peilot David Ibbotson.

Fe gyhoeddodd Cangen Ymchwilio Damweiniau Awyr (AAIB) nos Fawrth (Chwefror 5) eu bod nhw’n defnyddio robotiaid er mwy codi’r corff o waelod y môr.

Bydd arbenigwyr wedyn yn penderfynu pa un ai i symud gweddillion yr awyren ai peidio, medden nhw ymhellach. Mae’r gweddillion yn y darn o’r Sianel sydd tua 21 milltir oddi ar arfordir Guernsey.

Mae David Mearns, yr arbenigwr sy’n gyfrifol am y criw a ddaeth o hyd i’r awyren goll ddydd Sul (Chwefror 3), wedi bod mewn cysylltiad agos â theulu Emiliano Sala, a dywed eu bod nhw wedi croesawu’r ymdrechion diweddaraf gan yr AAIB.

Roedd ymosodwr newydd y Gleision yn teithio o Nantes yn Llydaw i Gaerdydd pan ddiflannodd yr awyren Piper Malibu N264DB a oedd yn ei gludo wrth groesi’r Sianel ar Ionawr 21.

Daeth y chwilio swyddogol am Emiliano Sala a David Ibbotson i ben ar Ionawr 24, ond fe lwyddodd teulu’r pêl-droediwr i godi £300,000 er mwyn talu am ymdrech newydd i chwilio amdanyn nhw.