Mae dyn 49 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau, wedi iddo foelyd ei gar “er mwyn osgoi octopws ar yr hewl”.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i safle damwain ar briffordd yr A381 rhwng Malborough a South Milton. Pan gyrhaeddon nhw, fe welson nhw’r car ben i waered mewn ffos.

Yn eu llif Twitter, mae Heddlu Cernyw yn dweud eu bod yn delio â sefyllfa lle mae gyrrwr yn honni iddo “wyro ei gar er mwyn osgoi octopws”.

Mae’r gŵr wedi’i ddwyn i’r ddalfa ar amheuaeth o fod dan ddylanwad cyffuriau.