Mae dyn busnes llwyddiannus wedi cyfrannu swm o £100m i Brifysgol Caergrawnt er mwyn noddi astudiaethau myfyrwyr.

Yn yr hyn sy’n cael ei ystyried y rhodd mwyaf i unrhyw brifysgol yng ngwledydd Prydain gan ddyngarwr, mae David Harding wedi cyfrannu £79m ar gyfer ysgoloriaethau myfyrwyr PhD a £20m ar gyfer myfyrwyr israddedig.

Bydd £1m wedyn yn mynd tuag at brosiectau sy’n ceisio denu myfyrwyr israddedig o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.

Mae Prifysgol Caergrawnt yn dweud eu bod nhw ar hyn o bryd yn derbyn mwy o geisiadau am gyllid gan fyfyrwyr PhD nag sydd o arian.

Ond fe fydd y cynllun sy’n defnyddio arian David Harding, a fydd yn cychwyn ym mis Hydref eleni, yn noddi mwy na 100 o fyfyrwyr uwchraddedig, medden nhw ymhellach.

Mae’r brifysgol a’i cholegau yn bwriadu cynyddu nifer y myfyrwyr israddedig o 6,500 yn 2016/17 i tua 7,400 erbyn diwedd 2021.