Mae cwmni awyrennau Ryanair wedi cyhoeddi colledion o fwy na £17 miliwn yn y tri mis hyd at 31 Rhagfyr.

Mae’r cwmni’n rhoi’r bai ar gyfres o heriau  gan gynnwys prisiau hedfan gwannach na’r disgwyl, ynghyd a chostau uwch am  danwydd, staff a cheisiadau am iawndal.

Mae’r cwmni hefyd yn poeni y bydd Brexit yn cael effaith ar eu helw blwyddyn lawn.

Dywedodd y Prif Weithredwr, Michael O’Leary – sydd wedi arwyddo cytundeb fydd yn ei gadw yn y swydd tan 2024 – fod y golled o €19.6 (£17.1m) yn “siomedig”.

Roedd prisiau is wedi ysgogi Ryanair i dorri ei rhagolwg elw blwyddyn lawn yng nghanol mis Ionawr am yr ail dro mewn pedwar mis.

Dywedodd Ryanair fod risg o Brexit heb gytundeb yn “bryderus” hefyd.

Roedd Ryanair wedi cludo 32.7 miliwn o gwsmeriaid yn y tri mis hyd at 31 Rhagfyr – sy’n gynnydd o 8%, ac fe fu cynnydd o 9% mewn refeniw i £1.3 biliwn.

Dywedodd Ryanair nad oedd “yn rhannu rhagolygon optimistaidd diweddar rhai cystadleuwyr y bydd prisiau hedfan yn ystod yr haf 2019 yn codi.”