Mae’r heddlu wedi cadarnhau bod dyn 51 oed wedi marw wedi i awyren blymio i’r ddaear ar y ffin rhwng Essex a Suffolk.
Cawson nhw eu galw i gae yn ardal Belchamp Walter yn Essex am oddeutu 11.50yb heddiw (dydd Sul, Chwefror 3).
Fe fu wyth injan dân ar y safle.