Mae Gwylwyr y Glannau yn chwilio afon Hull yn dilyn diflaniad Libby Squire.

Does neb wedi gweld y fyfyrwraig 21 oed ers nos Iau (Ionawr 31).

Mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn yr ardal ar y noson er mwyn ceisio creu darlun o’i symudiadau cyn iddi fynd ar goll.

Mae ei ffrindiau hefyd wedi bod yn chwilio amdani ac yn apelio am wybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae lle i gredu ei bod hi wedi gadael clwb nos mewn tacsi am 11 o’r gloch nos Iau, a bod modurwr wedi rhoi cymorth iddi am oddeutu 11.45yh.

Mae hi’n 5’7″, a chanddi wallt brown at ei hysgwyddau.

Roedd hi’n gwisgo top du gyda llewys hir, siaced ledr a sgert denim ddu.