Cafodd dau ddyn eu saethu yn eu coesau mewn dau ddigwyddiad gwahanol yn Derry yng Ngogledd Iwerddon neithiwr (nos Wener, Chwefror 1).

Mae Heddlu Gogledd Iwerddon yn disgrifio’r ddau ddigwyddiad fel rhai parafilwrol.

Fe ddigwyddon nhw yn ardal Ballymagroarty o fewn 10 munud a chan llath i’w gilydd rhwng 8.10yh ac 8.20yh.

Cafodd dyn 24 oed ei saethu yn y digwyddiad cyntaf, a chafodd dyn 32 oed ei saethu yn yr ail ddigwyddiad. Mae’r ddau yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.