Mae Amazon “yn cymryd mantais o’r system trethu ryngwladol” ac mae yn “amser i wledydd gael gwared ar y math yma o beth” meddai’r ymgyrchydd treth, Richard Murphy.

Yn ôl adroddiadau mae’r cwmni wedi talu llai o dreth corfforaeth ar Ynysoedd Prydain dros y ddau ddegawd diwethaf nag mae Marks & Spencers wedi talu mewn blwyddyn.

£61.7 miliwn o dreth corfforaeth mae Amazon wedi talu ar Ynysoedd Prydain dros yr ugain mlynedd diwethaf, yn ôl The Daily Mirror.

Yn yr un cyfnod bu trosiant Amazon yn £6.86 biliwn, ac £213 miliwn oedd yr elw.

Fe dalodd Marks & Spencers £65.4 miliwn o dreth y flwyddyn ddiwethaf, a £3.3 biliwn dros ugain mlynedd.

O ran siopau eraill, roedd Debenhams wedi talu £303 miliwn o dreth ers 2005 tra’r oedd Tesco wedi talu £176 miliwn.

“Mae’n bryd i wledydd gydweithredu i gael gwared â’r math hwn o beth. Ond mae’r Deyrnas Unedig yn dal i wrthwynebu llawer o’r diwygiadau,” meddai Richard Murphy.