Mae pennaeth gwasanaethau gofal yn Lloegr wedi cyhuddo cynghorau lleol ledled gwledydd Prydain o esgeuluso’r henoed drwy fethu â thalu digon i ofalu amdanyn nhw.

Ddydd Mawrth (Ionawr 29), fe fydd yr Athro Martin Green, prif weithredwr Care England, yn cyflwyno tystiolaeth yn Nhŷ’r Arglwyddi am ariannu gwasanaethau gofal, gan annog Llywodraeth Prydain i ymateb i’r sefyllfa ar unwaith.

Mae’n nodi nad yw nifer o gynghorau lleol wedi cynyddu’r arian maen nhw’n ei roi i gartrefi gofal ers blwyddyn gyfan; fod darparwyr gofal yn gwrthod lleoliadau gwaith y cyngor sy’n rhoi pwysau ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd; ac y gallai’r cynnydd disgwyliedig o 7.5% yn nifer y bobol mewn cartrefi gofal erbyn 2020 adael miloedd o bobol heb wely.

 Cefndir

Mae un o bob pump o gynghorau lleol yng ngwledydd Prydain wedi methu â chynyddu’r ffioedd maen nhw’n eu talu, er bod costau a biliau cyflogau wedi cynyddu 5% dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae hynny’n arwain at ddirwyn gwasanaethau i ben neu wrthod lleoliadau gwaith y cynghorau er bod galw cynyddol am ofal.

“Mae’r cynghorau hyn yn talu £350 yn unig bob wythnos i gartrefi gofal am ofal 24 awr, saith diwrnod yr wythnos,” meddai’r Athro Martin Green.

“Drwy fethu ag ariannu eu gofal yn ddigonol, maen nhw’n amddifadu’r henoed.

“Mae methu â sicrhau cynnydd mewn ffioedd tra bod costau wedi codi dros 4% yn sarhad.

“Mae ein cymdeithas yn sefydliadol wrthwynebus i’r henoed. Mae pobol hŷn yn cael eu trin fel problem i’w goddef yn hytrach na rhywbeth i’w drysori.

“Allwch chi jyst ddim rhedeg cartref gofal a rhoi’r cyfanswm priodol o ofal ar arian pitw.

“Does dim rhyfedd fod cartrefi gofal yn cau a bod yna argyfwng cynyddol yn nifer y llefydd sydd ar gael i’r henoed.”