Mae’r darlledwr 95 oed, Nicholas Parsons, yn galw am yr hawl i weithwyr dros 85 oed gael talu llai o dreth.

Daw ei sylwadau yn dilyn cyfweliad â’r Sunday Times.

“Maen nhw’n eich trethu chi ar eich pensiwn henoed os ydych chi’n dechrau ennill,” meddai.

“Does bosib fy mod i – a phobol eraill yr un oed â fi – wedi talu i mewn i’r system yr holl flynyddoedd hynny? Does bosib ar ôl oedran arbennig na ddylen nhw ei drethu?

“Dw i ddim yn dweud 65 oed. Ond unwaith rydych chi’n cyrraedd 85 neu 90, dylen nhw ddweud, ‘Wel, rydych chi wedi bod yn talu i mewn i’r system ers blynyddoedd. O hyn ymlaen, wnawn ni ddim eich trethu chi’.”

Ar hyn o bryd, does dim rhaid i bobol sy’n gweithio ar ôl derbyn eu pensiwn gwladol dalu yswiriant cenedlaethol, ond maen nhw’n cael eu trethu os ydyn nhw’n ennill mwy na’r lwfans di-dreth.