Fydd y ffaith fod Alex Salmond, cyn-Brif Weinidog yr Alban, yn wynebu 14 o gyhuddiadau o droseddau rhyw ddim yn cael effaith ar yr ymgyrch annibyniaeth yn yr Alban, yn ôl Nicola Sturgeon.

Daw sylwadau Prif Weinidog yr Alban wrth i’w rhagflaenydd wynebu cyhuddiadau o geisio treisio ac o ymosod yn rhywiol.

Aeth gerbron llys ddydd Iau, lle’r oedd yn gwadu iddo wneud unrhyw beth o’i le, a dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a yw’r heddlu wedi cyfweld â Nicola Sturgeon fel rhan o’r ymchwiliad.

“Roedd y datblygiadau dros yr wythnos ddiwethaf yn sioc i bawb, does dim gwadu hynny,” meddai.

“Ond oherwydd fod cyhuddiadau wedi’u gwneud yr wythnos ddiwethaf, mae’r achos yn mynd rhagddo’n fyw yn unol â’r Ddeddf Dirmyg Llys, felly does dim byd priodol y gallaf i nac unrhyw un arall, o ran hynny, ei ddweud ar hyn o bryd.

“Fydda i ddim yn gwneud sylw am unrhyw agwedd ar ymchwiliad yr heddlu. Nid mater o ddewis yw hynny, o reidrwydd – dyna’r goblygiadau i fi, fel unrhyw un arall, fod rhaid parchu’r broses.”

Effaith ar wleidyddiaeth

Ond mae hi wedi siarad yn agored am effaith yr achos ar ddyfodol yr Alban.

“Dw i ddim yn credu ei fod e wedi cael effaith ar gyfeiriad gwleidyddol a chyfansoddiadol yr Alban yn y dyfodol,” meddai.

“Mae’r achos tros annibyniaeth yn fwy nag unrhyw ddyn unigol – mae’n fwy nag unrhyw ddynes unigol – ac nid yw’n fater o bersonoliaethau unigol, ond yr hyn sydd orau i’r wlad nawr ac yn y tymor hir.

“Mae’n fater o sut rydyn ni’n ein gosod ein hunain yn y lle gorau i warchod ein buddiannau ac adeiladu llewyrch a thegwch yn yr Alban.”

Pleidleisiodd 55.3% o boblogaeth yr Alban yn erbyn annibyniaeth yn 2014, ond mae mater Brexit yn debygol o fod wedi cynyddu’r galw erbyn hyn.

Beirniadu’r sôn am annibyniaeth

Tra bod Nicola Sturgeon yn agored ei safbwynt ar fater annibyniaeth, mae’r gwrthbleidiau’n galw unwaith eto am droi cefn ar y mater unwaith ac am byth.

“Fe wnaethon ni gais syml i Lywodraeth yr SNP,” meddai Willie Rennie, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban.

“Os ydyn ni’n parcio mater annibyniaeth am weddill y Senedd hon, yna fe allem gyrraedd cytundeb cynhwysfawr a blaengar ar y gyllideb.

“Rydym wedi gwneud y cynnig hwnnw droeon ac yn gyson fel y gallai’r Alban gael Llywodraeth Albanaidd sefydlog sy’n canolbwyntio ar yr heriau mawr yn hytrach na chael eu pwyso’n drwm gan ddadl gyfansoddiadol enfawr arall sy’n tynnu sylw.”

Ac mae Jackson Carlaw, arweinydd dros dro’r Ceidwadwyr Albanaidd yn cyhuddo Nicola Sturgeon o “barablu” am annibyniaeth.

“Dim ots beth sy’n digwydd o fewn ei phlaid ei hun neu yn unman arall, wneith hi ddim rhoi’r gorau i barablu am ei hymgyrch am refferendwm annibyniaeth arall.

“Dyna’i hunig flaenoriaeth.”