Mae Dug Caeredin, y Tywysog Philip, wedi ymddiheuro am y gwrthdrawiad ger Sandringham yn Norfolk, ar ôl i fam i ddau o blant gael ei hanafu yn y digwyddiad.
Fe ddigwyddodd ar Ionawr 17, pan oedd e’n gyrru Land Rover Freelander. Fe wnaeth e foelyd y cerbyd ar ôl taro Kia Emma Fairweather. Roedd y car hwnnw’n cludo ei mab naw mis oed.
Cafodd dynes arall driniaeth yn yr ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad.
‘Brysiwch wella’
Torrodd Emma Fairweather ei garddwrn yn y gwrthdrawiad, ac roedd hi’n galw am erlyn Dug Caeredin pe bai e’n euog o drosedd.
Fe ddywedodd iddo gael ei ddallu gan yr haul wrth adael Sandringham, ac nad oedd e wedi gweld y car yn dod tuag ato.
“Hoffwn i chi wybod fod yn flin iawn gen i am fy rhan yn y ddamwain ar groesffordd Babingley,” meddai yn ei lythyr sydd wedi’i gyhoedi yn y Sunday Mirror.
“Rwyf wedi croesi’r groesffordd honno droeon, ac rwy’n gwybod yn iawn faint o draffig sy’n defnyddio’r ffordd fawr honno.
“Roedd yn ddiwrnod heulog ac oddeutu tri o’r gloch y prynhawn, ac roedd yr haul yn isel dros y Wash.
“Mewn geiriau eraill, roedd yr haul yn disgleirio’n isel dros y brif ffordd.
“Mewn amodau arferol, fyddwn i ddim wedi cael anhawster gweld y traffig yn dod o gyfeiriad Dersingham, ond gallaf ond ddychmygu i mi fethu â gweld y car yn dod, ac rwy’n edifar am y canlyniadau.
“Cefais fy siglo rywfaint wedi’r ddamwain, ond roeddwn yn teimlo rhyddhad mawr na chafodd yr un ohonoch eich anafu’n ddifrifol.
“Wrth i dorf ddechrau ymgynnull, cefais gyngor i ddychwelyd i Sandringham gan blismon lleol. Rwyf wedi cael gwybod ers hynny i chi dorri eich braich. Mae’n flin iawn gennyf am yr anaf.
“Dymunaf wellhad buan i chi wedi profiad ysgytwol iawn.”
‘Syndod’
Mae Emma Fairweather yn dweud iddi gael ei synnu fod y llythyr mor anffurfiol ei naws.
“Ro’n i’n credu ei bod yn braf iawn ei fod e wedi llofnodi’r llythyr gan ddefnyddio ‘Philip’ yn hytrach na’r teitl ffurfiol.
“Ces i fy siomi ar yr ochr orau oherwydd y natur bersonol.
“Roedd llawer o bobol yn dweud ei bod yn afrealistig fy mod i am weld caredigrwydd dynol gan y Tywysog Philip – a dyna welais i yn y llythyr hwn.”
Serch hynny, fe gafodd lluniau ohono’n gyrru heb wregys eu cyhoeddi ddeuddydd wedi’r gwrthdrawiad, ac mae wedi’i feirniadu yn sgil hynny.