Fe fydd Prydain yn cydnabod gwrthwynebydd arlywydd swyddogol Venezuela fel arlywydd dros dro os na fydd etholiad ‘teg’ yn cael ei gyhoeddi o fewn wyth niwrnod.

Dyna yw rhybudd yr Ysgrifennydd Tramor Jeremy Hunt i’r arlywydd swyddogol Nicolas Maduro, sy’n wynebu pwysau rhyngwladol i ildio i Juan Guaido, pennaeth cynulliad cenedlaethol y wlad.

Roedd Juan Guaido wedi datgan ei hun fel arlywydd dros dro yn y brifddinas Caracas ddydd Mercher yng nghanol protestiadau torfol anferth yn erbyn Nicolas Maduro, sy’n cael ei gythuddo o ddifetha economi’r wlad.

Cafodd ei urddo i’w ail dymor fel arlywydd yn gynharach y mis yma, er gwaethaf honiadau helaeth o dwyllo yn yr etholiad y llynedd.

“Ar ôl gwahardd ymgeiswyr gwrthbleidiau ac anghysondebau cyfrif mewn etholiad hynod ddiffygiol, mae’n amlwg nad Nicolas Maduro yw arweinydd cyfreithlon Venezuela,” meddai Jeremy Hunt.

“Juan Guaido yw’r person iawn i symud Venezuela ymlaen. Os na fydd etholiadau newydd a theg yn cael eu cyhoeddi o fewn wyth niwrnod, fe fydd y Deyrnas Unedig yn ei gydnabod fel Arlywydd dros dro i symud y broses wleidyddol ymlaen at ddemocratiaeth.”

Mae neges yr Ysgrifennydd Tramor yn dilyn camau tebyg sydd wedi cael eu cymryd gan lywodraethau’r Almaen, Ffranc a Sbaen. Mae Juan Guaido eisoes wedi cael ei gydnabod fel arlywydd dros dro gan Donald Trump.