Cyfrifoldeb Prydain a neb arall yw rhwystro ffin galed yn sgil Brexit a diogelu proses heddwch Iwerddon, yn ôl gweinidog Ewrop Gweriniaeth Iwerddon, Helen McEntee.

“Mae fel petai cyfrifoldeb y Deyrnas Unedig yn cael ei gwthio ar Iwerddon,” meddai. “Y dylen ni gyfaddawdu. Mai ni yw’r rheini sy’n ceisio bod yn lletchwith neu anodd.

“Nid y ni a bleidleisiodd dros Brexit. Dydyn ni ddim yn credu ynddo.

“Rydyn ni’n amddiffyn proses heddwch. Mae ymrwymiad ar Brydain i sicrhau bod y broses heddwch, Cytundeb Dydd Gwener y Groglith, yn cael ei amddiffyn.

“I ni, mae Cytundeb Dydd Gwener y Groglith yn llawer pwysicach na Brexit.”