Mae dyn wedi ei garcharu am 20 mlynedd am dreisio ei ferch “dair neu bedair gwaith yr wythnos” yn y 1980.

Erbyn hyn mae Carol Higgins yn 49 oed ac wedi siarad yn gyhoeddus am droseddau ei thad.

Fe glywodd Llys y Goron Leeds bod Elliott Appleyard, 71, wedi gorfodi ei ferch i wisgo modrwy ddyweddïo ei wraig, ac i gael tatŵ o’i lysenw ar ei hysgwydd.

Roedd Carol Higgins yn 14 oed pan ddechreuodd yr ymosodiadau, wnaeth bara blwyddyn.

Wrth ddedfrydu Elliott Appleyard i 20 mlynedd o garchar, dywedodd y Barnwr Rodney Jameson: “Am 12 mis fe wnaethoch chi drin Carol Higgins fel eich gwraig.

“Buoch chi yn ei defnyddio hi ar gyfer rhyw, yn ei cham-drin yn rhywiol a chorfforol, fel yr oeddech yn trin eich gwraig eich hun.”

Wedi’r ddedfryd dywedodd Carol Higgins: “Rydw i’n teimlo bod cyfiawnder wedi ei wneud a fedrwn i ddim bod dim hapusach.”