Bydd Jack Shepherd yn cael ei gadw yn y ddalfa yn Georgia am dri mis wrth i’r awdurdodau baratoi ei achos estraddodi.

Mae’r gwe-ddylunydd 31 oed yn honni iddo gael rhybudd y byddai ei fywyd mewn perygl, pe bai yn cael ei garcharu ym Mhrydain.

Y llynedd fe gafodd ei ganfod yn euog o ladd Charlotte Brown, 24, wrth fynd â hi am dro rhamantus mewn cwch cyflym.

Fe gafodd ei ganfod yn euog o ddynladdiad trwy esgeulustod ofnadwy, a’i ddedfrydu i chwe blynedd dan glo.

Ond roedd wedi mynd ar ffo cyn i’r achos ddechrau yn llys yr Old Bailey yn Llundain.

Shampên

Bu farw Charlotte Brown wedi iddi syrthio i’r Afon Tafwys wedi i gwch Jack Shepherd fod mewn gwrthdrawiad.

Roedd gyrrwr y cwch wedi bod yn yfed shampên ar y pryd.

Mae Jack Shepherd wedi bod yn byw a gweithio yn Georgia ers mis Mawrth y llynedd.

Yn ddiweddar fe gyflwynodd ei hun i’r heddlu lleol ac mae Gwasanaeth erlyn y Goron wedi gofyn i’r awdurdodau yn Georgia anfon Jack Shepherd yn ôl i Brydain.