Mae’r gitarydd enwog Brian May yn gwadu iddo amddiffyn cyfarwyddwr y ffilm Bohemian Rhapsody.

Fe roddodd Bryan Singer y gorau i gyfarwyddo’r actorion ar ganol y cyfnod ffilmio, ond ei enw ef yn unig sydd ar ddiwedd y ffilm yn nodi pwy fu’n cyfarwyddo.

Bellach mae honiadau wedi dod i’r fei yn America bod Bryan Singer wedi ymosod yn rhywiol ar bedwar o ddynion pan oedden nhw dan oed.

Mae Bryan Singer yn gwadu’r honiadau sydd wedi eu gwneud mewn stori yng nghylchgrawn The Atlantic, ac yn dweud bod yr erthygl yn “homoffobic”.

Yn ogystal â Bohemian Rhapsody, mae Bryan Singer wedi cyfarwyddo The Usual Suspects, X-Men a Superman Returns.

Ffrae ar y We

Pan awgrymodd un o’i ffans wrtho y dylai Bryan May roi’r gorau i ddilyn Bryan Singer ar safle Instagram, cyhoeddodd Brian May y neges ganlynol: ‘Rhaid i ti ofalu am dy fusnes dy hun a rhoi’r gorau i ddweud wrtha i beth i’w wneud. Ac mae yn rhaid i ti ddysgu parchu’r ffaith fod dyn neu ddynes yn ddieuog nes profir fel arall.’

Ond bellach mae Brian May wedi cyhoeddi ymddiheuriad llaes ac yn mynnu nad oedd yn amddiffyn Bryan Singer yn ei neges wreiddiol.

Dywedodd Bryan May ar Instagram: ‘Doedd gen i ddim clem y byddai dweud bod rhywun yn ddieuog nes profir fel arall,  yn gallu cael ei ddehongli fel “amddiffyn” Bryan Singer. Doedd gen i ddim bwriad o gwbl o wneud hynny.’

Dim gwobr LGBT i Bohemian Rhapsody

Mae’r ffilm Bohemian Rhapsody wedi ei thynnu oddi ar restr fer ar gyfer gwobr ‘y ffilm wreiddiol orau’ mewn seremoni sy’n cydnabod cyfraniadau arbennig i’r gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywedd (LGBT).