Mae Llywodraeth Prydain wedi amlinellu cynlluniau a fyddai’n cyflwyno rheolau newydd ynghylch labelu bwyd.

Mae ymgynghoriad wedi cael ei gychwyn gan adran DEFRA sy’n canolbwyntio ar sut mae bwydydd sy’n cael eu paratoi o flaen llaw, fel brechdanau a saladau, yn cael eu cynhyrchu, eu pecynnu a’u gwerthu.

Yn ôl DEFRA, mae’r rheolau presennol yn nodi nad oes rheidrwydd ar fusnesau sy’n paratoi ac yn gwerthu bwydydd ar yr un safle gynnwys gwybodaeth am alergeddau ar labeli.

Ond mae’r cynlluniau newydd, sy’n cael eu cyhoeddi heddiw (dydd Gwener, Ionawr 25), yn gobeithio newid hynny, gan orfodi masnachwyr sy’n gwerthu bwydydd yn uniongyrchol i gwsmeriaid gynnwys manylion llawn wrth labelu.

Daw’r camau hyn yn dilyn marwolaeth Natasha Ednan-Laperouse, a ddioddefodd alergedd ar ôl bwyta bagét o Pret A Manger.

Ers hynny, mae ei rhieni wedi galw am gyfraith newydd a fyddai’n sicrhau bod pob alergedd yn cael eu nodi ar becynnau bwyd.

Dywed DEFRA mai eu gobaith yw y byddai’r ymgynghoriad diweddaraf yn rhoi hyder i’r 2m o bobol sy’n dioddef o alergeddau bwyd yng ngwledydd Prydain, yn enwedig lle mae diogelwch eu bwyd yn fater difrifol.