Mae Cyngor Diogelwch Prydain yn dweud bod y Tywysog Philip wedi “cyfleu’r neges anghywir” wrth fethu â gwisgo gwregys wrth y llyw.

Cafodd llun ohono yn ei Land Rover ei gyhoeddi ddeuddydd yn unig ar ôl gwrthdrawiad ger Sandringham yn Norfolk.

Mae Emma Fairweather, y ddynes a fu yn y gwrthdrawiad gyda Dug Caeredin, yn dweud y dylid ei gosbi, gan ddweud ei fod yn “ansensitif dros ben ac yn ddi-hid”.

Gall gyrwyr nad ydyn nhw’n gwisgo gwregys gael dirwy o hyd at £500. Mae’n orfodol i wisgo gwregys yng ngwledydd Prydain ers 1983.

Yn ôl Lawrence Waterman, cadeirydd Cyngor Diogelwch Prydain, dydy’r bygythiad o ddirwy ddim yn ddigon i annog gyrwyr i wisgo gwregys wrth yrru.

“Cyn bod trychineb yn digwydd, mae iechyd a diogelwch yn cael ei ystyried yn ‘fwrn, yn niwsans, yn beth afiach, biwrocrataidd sy’n rhaid ei wneud’.

“Unwaith mae trychineb wedi digwydd, mae pawb yn dweud ‘dylai rhywun fod wedi gwneud rhywbeth i atal hyn rhag digwydd’.

“Mae’r digwyddiad gydag aelod o’r teulu brenhinol yr wythnos ddiwethaf yn profi’r pwynt hwnnw.

“Mae pobol sydd â dylanwad ar y cyhoedd sy’n torri’r gyfraith yn cyfleu’r neges anghywir i’r gweddill ohonom.”

‘Gair i gall’

 Mae Heddlu Norfolk wedi siarad â Dug Caeredin yn dilyn y digwyddiad, gan bwysleisio pwysigrwydd gwisgo gwregys.

Cafodd e brawf llygaid yn dilyn y digwyddiad hefyd, gan basio’r prawf hwnnw.

Mae’r ymchwiliad i’r digwyddiad ar y gweill.