Mae’n ymddangos bod aelodau’r SNP yn anghytuno ynghylch yr amser gorau i gynnal refferendwm annibynaieth o’r newydd yn yr Alban.

Mae rhai o fewn y blaid yn galw am gynnal refferendwm os na fydd cytundeb ar Brexit, ond mae eraill yn dweud bod yr ansicrwydd ynghylch cytundeb Theresa May, prif weinidog Prydain, yn golygu nad nawr yw’r amser gorau am yr ymgyrch.

Mae’r ansicrwydd tros Brexit yn golygu nad oes atebion i rai cwestiynau am annibyniaeth o hyd, yn ôl Alyn Smith, Aelod Seneddol Ewropeaidd yr SNP.

Mae’n dweud bod angen gweld “diweddglo” i drafodaethau Prydain a’r Undeb Ewropeaidd cyn gwneud penderfyniad ar ddyfodol yr Alban.

“O fewn yr SNP a’r mudiad Yes, mae yna nifer o bobol sy’n credu y dylen ni jyst fynd am annibyniaeth nawr. Dw i ddim o’r farn honno.”

Ond mae’n dweud ei fod yn deall “rhwystredigaeth” Albanwyr ynghylch ymdriniaeth San Steffan o’r Alban, ar ôl i’r mwyafrif yn y wlad bleidleisio o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae disgwyl cyhoeddiad gan Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, “o fewn wythnosau”.

Y dadleuon o blaid ac yn erbyn

 Mae Alex Salmond, ei rhagflaenydd, yn dweud nad yw hi’n debygol o gael “gwell amser” i wthio’r ymgyrch yn ei blaen.

Mae’r farn honno wedi’i chefnogi gan Angus McNeil, un o aelodau seneddol y blaid, sy’n galw ar Nicola Sturgeon i flaenoriaethu’r mater tros alwadau am ail refferendwm Ewropeaidd.

 Mae eraill yn galw am bwyllo cyn gwneud penderfyniad i wthio’r ymgyrch, gyda Stewart McDonald yn rhybuddio y gallai arwain at “droi ein gwleidyddiaeth yn arf am resymau drwg”.