Mae’r Blaid Lafur yn “debygol iawn” o gefnogi cynllun i ohirio Brexit os na fydd cytundeb yn ei le erbyn diwedd mis nesaf, yn ôl John McDonnell, canghellor yr wrthblaid.

Mae’n dweud bod bil trawsbleidiol “synhwyrol” yn nodi hynny wedi’i gefnogi gan Yvette Cooper (Llafur) a Nick Boles (Ceidwadwyr).

Ac mae George Osborne, y cyn-Ganghellor, yn dweud mai gohirio Brexit yw’r “opsiwn mwyaf tebygol” ar hyn o bryd, wrth i’r Bil alw am oedi gweithredu Erthygl 50.

“Mae Yvette Cooper wedi cyflwyno gwelliant sydd, dw i’n meddwl, yn synhwyrol,” meddai John McDonnell wrth raglen Newsnight y BBC.

“Mae’n dweud wrth y Llywodraeth, “Rydych chi wedi rhedeg y cloc i lawr gymaint fel ei bod yn edrych fel pe baech chi’n methu cael cytundeb erbyn Chwefror 26”… Wedyn, bydd angen i’r Llywodraeth gyflwyno cynigion i ymestyn hynny.

“Felly dw i’n credu ei fod yn gynyddol debygol eisoes y bydd angen i ni gymryd yr opsiwn hwnnw oherwydd bod y Llywodraeth wedi rhedeg y cloc i lawr.”

Fe fydd angen ymgynghori â chefnogwyr y Blaid Lafur cyn gwneud penderfyniad ar eu polisi, meddai.

‘Dryll wedi’i ddal wrth ben economi Prydain’

Mae George Osborne, yn y cyfamser, yn dweud bod sefyllfa dim cytundeb yn golygu bod “dryll wedi’i ddal wrth ben economi Prydain”.

Ac mae’n dweud y bydd angen cynnal ail refferendwm os nad yw’n bosib dod i gytundeb ar delerau Brexit.

Mae nifer o gwmnïau, gan gynnwys Dyson a llongau P&O, yn dweud eu bod yn paratoi i symud eu pencadlys allan o wledydd Prydain.

Bydd pleidlais ar nifer o welliannau i’r Bil Brexit ddydd Mawrth nesaf (Ionawr 29).