Mae banc Santander yn bwriadu cau 140 o ganghennau, gan roi 1,270 o swyddi yn y fantol.

Dywed y banc eu bod yn ymateb i’r “newidiadau sylweddol” yn y ffordd mae cwsmeriaid yn bancio erbyn hyn.

Mae Santander wedi cysylltu gydag undebau am y newidiadau ac fe fyddan nhw’n trio dod o hyd i waith ar gyfer y 1,270 o staff sydd wedi cael eu heffeithio, lle mae hynny’n bosib.

Fe fydd chwech o ganghennau Santander yn cau yng Nghymru, ym Mhenarth, Rhydaman, Llangefni, Tonypandy, Trefynwy a Phenfro.

Dywedodd Susan Allen o Santander: “Mae’r ffordd mae’n cwsmeriaid yn dewis bancio gyda ni wedi newid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda mwy a mwy o’n cwsmeriaid yn bancio ar lein ac ar eu ffonau.

“O ganlyniad rydyn ni wedi gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd iawn ynglŷn â’r canghennau hynny sydd ddim yn cael eu defnyddio’n rheolaidd.”