Mae dynes, 21, wedi marw ar ôl cael ei tharo gan gar yr heddlu yn Llundain neithiwr (nos Fawrth, Ionawr 22).

Bu’r digwyddiad yn ardal Fforest Road yn nwyrain y brif ddinas, a bu farw’r ddynes yn y fan a’r lle.

Yn ôl yr Heddlu Metropolitan, roedd swyddogion yn ymateb i adroddiad bod dyn yn bygwth aelodau o’r cyhoedd yn ardal Walthamstow. Mae’n debyg bod y dyn hwnnw wedi dianc erbyn i’r heddlu gyrraedd y safle.

Mae lluniau a chlipiau fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos o leiaf pum car yr heddlu a dau ambiwlans ger safle’r gwrthdrawiad.