Mae’r gadwyn siopau Patisserie Valerie wedi cael ei rhoi yn nwylo’r gweinyddwyr gan roi 2,800 o swyddi yn y fantol.
Dywedodd y cwmni bod trafodaethau gyda’i fenthycwyr HSBC a Barclays wedi methu gan olygu nad oedd dewis ond penodi’r gweinyddwyr KPMG.
Fe ddechreuodd trafferthion Patisserie Valerie ar ôl i dwyll ariannol gael ei ddarganfod yn eu cyfrifon ym mis Hydref y llynedd.
Mae gan Patisserie Valerie 200 o gaffis – rhai ohonyn nhw yng Nghymru. Dywed KPMG y byddan nhw’n cadw 121 o’r siopau ar agor ond eu bod nhw wedi gorfod cau 70 ohonyn nhw gan arwain at “nifer sylweddol” o ddiswyddiadau.
Mae’r cadeirydd Luke Johnson wedi ymestyn benthyciad i sicrhau bod holl staff y cwmni yn cael eu talu ar gyfer mis Ionawr. Fe fydd y benthyciad hefyd yn helpu’r siopau sy’n broffidiol i aros ar agor tra bod y broses o werthu’r cwmni yn mynd rhagddi.
Dywed KPMG eu bod yn ffyddiog o ddod o hyd i brynwr.