Mae Pets at Home am wario hyd at £8m ar stoc wrth gefn rhag ofn y byddai gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Daw’r cyhoeddiad gan y manwerthwr wrth i ddyddiad Brexit – Mawrth 29 – agosáu ac wrth i Brif Weinidog Prydain, Theresa May, barhau i geisio ennill cefnogaeth i’w chytundeb yn y Senedd.

Mae Pets at Home wedi bod yn mewnforio nwyddau o dramor ers y llynedd wrth baratoi ar gyfer Brexit.

Maen nhw wedi rhybuddio bod 17% o’i nwyddau yn dod o’r tu hwnt i wledydd Prydain, a bod yna beryg y gallai eu stoc gael ei effeithio yn y dyddiau yn dilyn Brexit dim cytundeb oherwydd oedi mewn porthladdoedd.

Yn ôl prif weithredwr y cwmni, Peter Pritchard, maen nhw’n awyddus i sicrhau na fydd “teuluoedd yn rhedeg allan o fwyd ar gyfer eu hanifeiliaid anwes.”